English

Statws Gwasanaeth Presennol:

All systems operational

Telerau ac Amodau i Rieni


Cytundeb School Gateway i Rieni

Gwybodaeth bwysig:
Please read this Darllenwch y Cytundeb hwn yn ofalus cyn ysgogi eich cyfrif School Gateway. Y wybodaeth hon yw’r Cytundeb ar gyfer eich defnydd o School Gateway. Drwy ysgogi neu barhau i ddefnyddio School Gateway, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen, deall a derbyn y Cytundeb hwn. Bydd y Cytundeb hwn rhyngoch chi a ni yn unig.


1. Diffiniadau

Cytundeb – Y Cytundeb hwn fel y caiff ei amrywio o bryd i’w gilydd.

Ap – Yr ap sydd wedi’i ddylunio i ddarparu is-set o wasanaethau School Gateway ar ffôn symudol. Debyd Uniongyrchol – Cyfarwyddyd gennych chi i’ch banc sy’n ein hawdurdodi i gasglu symiau amrywiol o’ch cyfrif banc, naill ai fel rhan o broses dalu yn ystod Taliad Rhiant, neu fel rhan o gynllun taliadau awtomataidd gennych chi, fel rhandaliad ar gyfer taith neu ychwanegu swm ar gyfer prydau ysgol yn awtomatig.

Dyddiad Segur – Y dyddiad 90 diwrnod ar ôl i Ddisgybl gael ei archifo o School Gateway gan Ysgol.

Polisi Defnydd Teg – Set o ganllawiau, rheolau a chyfyngiadau sy’n rheoli’r defnydd o’r gwasanaeth Cyfrif Rhiant, a allai gael eu cyhoeddi a’u hamrywio gennym o bryd i’w gilydd.

Grŵp – yn golygu Schoolcomms (“y Cwmni”), unrhyw gwmni daliannol y Cwmni ac unrhyw is-gwmnïau’r Cwmni, neu unrhyw un o’i gwmnïau daliannol fel y diffinnir yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006 a bydd “Cwmni grŵp” yn golygu aelod o’r Grŵp.

Gwybodaeth – Gwybodaeth, gan gynnwys Gwybodaeth Bersonol, a ddarperir gennych yn ystod proses ysgogi Cyfrif School Gateway neu wedi hynny, neu a ddarperir gan yr Ysgol, at ddibenion: ein gwaith o reoli a gweinyddu School Gateway a Thaliadau Rhiant i chi; darparu cynnyrch a gwasanaethau eraill Schoolcomms i chi neu’r Ysgol; neu ddarparu cynnyrch neu wasanaethau a gynigir i chi gennym.

Rhiant – chi, y parti sy’n ymrwymo i’r Cytundeb hwn, fel rhiant neu warcheidwad cyfreithiol Disgybl.

Taliadau Rhiant – Trafodiad talu gan Riant i Ysgol ei blentyn, wedi’i ysgogi yn School Gateway ac sy’n cael ei dalu gan ddefnyddio Dull Talu dilys.

Schoolcomms – us, the service provider, trading as Schoolcomms, an operating division of ParentPay Limited, a company registered in England and Wales with number 04513692 and whose registered office is at 11 Kingsley Lodge, 13 New Cavendish Street, London, W1G 9UG and whose trading address is Continental House, Kings Hill, Bude, Cornwall EX23 0LU.

School Gateway – Yr ardal ar y Wefan sy’n caniatáu i chi gael mynediad ar-lein diogel i gael a gweld cyfathrebiadau gan eich Ysgol, ac i reoli eich Taliadau Rhiant a gwybodaeth gysylltiedig.

Cyfrif School Gateway – Cyfrif dilys wedi’i ysgogi ar School Gateway sy’n gysylltiedig â Rhiant.

Gwefan School Gateway – www.schoolgateway.com neu fel y cyfathrebir gennym o bryd i’w gilydd.

Cynnyrch Schoolcomms – Ein cynnyrch a’n gwasanaethau proffesiynol eraill a ddarperir i’n cleientiaid.

Dull Talu – Amrywiol ddulliau talu a dderbynnir gennym o bryd i’w gilydd at ddibenion Cyflawni Taliad Rhiant, gan ystyried y gellir newid Dulliau Talu o bryd i’w gilydd. Mae’r Dulliau Talu sy’n cael eu derbyn ar hyn o bryd yn cynnwys cardiau credyd, cardiau debyd, PayPoint a Debyd Uniongyrchol.

Taliad PayPoint – Taliad Rhiant a wneir mewn arian parod gan Rieni, dros y cownter mewn manwerthwyr, asiantiaid neu derfynellau PayPoint sydd wedi’u brandio a’u hawdurdodi, gan ddefnyddio Cerdyn Talu neu god bar dilys wedi’i gyhoeddi gennym.

Gwybodaeth Bersonol – Gwybodaeth Bersonol fel y diffinnir yn y Ddeddf Diogelu Data.

Disgyblion – Disgyblion sydd wedi’u cofrestru mewn Ysgolion y mae eu cofnodion yn cael eu rheoli gan yr Ysgol drwy ddefnyddio cynnyrch Schoolcomms o bosib.

Scheme – An organisation which manages and controls the rules for clearing of payments through a network of participating members or entities, or an organisation which operates or owns such a network, where Schemes which are supported for Parent Payments made by BACS/Direct Debit, MasterCard, PayPoint and Visa, and where the supported Schemes may change from time to time.

Ysgol – Sefydliad addysgol neu fudiad cysylltiedig sydd wedi cofrestru yn y DU ac sy’n gleient i ni, ac wedi’i drwyddedu i ddefnyddio cynnyrch Schoolcomms.

Trafodiad – y broses lle mae Rhiant yn gwneud Taliad Rhiant drwy Ddull Talu dilys, gan ddefnyddio cynnyrch Schoolcomms, gan gynnwys prosesu neu awdurdodi’r taliad.

Swm y Trafodiad – Cyfanswm y trafodiad gan gynnwys unrhyw ffioedd cysylltiedig.

ni, ein – Schoolcomms a’n Grŵp.

chi, eich – chi, y Rhiant, sy’n ymrwymo i’r Cytundeb hwn.


2. Hyd a Lled y Cytundeb hwn

2.1.Dim ond yn Saesneg y mae’r Cytundeb hwn wedi’i ysgrifennu a dim ond yn Saesneg y mae ar gael, ac rydym wedi ymrwymo i gysylltu â chi’n Saesneg ynghylch unrhyw agwedd ar wasanaeth School Gateway.

2.2.Rydych yn cytuno y cawn gyfathrebu â chi dros e-bost a/neu drwy School Gateway a/neu drwy hysbysiadau’r Ap er mwyn cyhoeddi unrhyw negeseuon neu wybodaeth am eich Cyfrif School Gateway, ac felly mae’n bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr bod eich cyfeiriad e-bost cyfredol wedi’i nodi ar School Gateway.

2.3.Mae’r Cytundeb hwn rhyngoch chi a ni yn unig.


3. Nodweddion cynnyrch

3.1.Rydym yn darparu cynnyrch meddalwedd ar-lein a gwasanaethau cysylltiedig i Ysgolion yn y DU er mwyn eu galluogi: i gasglu a rheoli incwm gan Rieni ar gyfer gwasanaethau fel prydau ysgol, teithiau a chlybiau ar ôl ysgol; ac i anfon negeseuon a chyfathrebu â Rhieni.

3.2.Ar gyfer Rhieni Disgyblion yn yr Ysgolion hynny, rydym yn darparu Cyfrif School Gateway diogel y ceir mynediad ato drwy School Gateway neu’r Ap sydd, ar ôl ei ysgogi, yn caniatáu i rieni gael gafael ar wybodaeth a gyhoeddir gan Ysgol eu plentyn, cyfathrebu â’r Ysgol, gwneud archebion ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau yn yr Ysgol, a gwneud Taliadau Rhiant i’r Ysgol.

3.3.I osgoi amheuaeth, rydym yn darparu gwasanaeth cyfathrebu a thalu ond nid ydym yn gyfrifol nac yn atebol am yr eitemau talu a gynigir gan Ysgolion. Wrth ddefnyddio School Gateway i wneud Taliadau Rhiant, rydych yn cydnabod ac yn derbyn bod y contract ar gyfer gwerthiant unrhyw nwyddau neu wasanaethau y telir amdanynt drwy Daliadau Rhiant, ac unrhyw hawl ddigolledu mewn cysylltiad â’r Taliadau Rhiant hynny, rhyngoch chi a’r Ysgol yn unig.

3.4.Nid ydym yn gyfrifol am y canlynol: y cynnyrch a’r gwasanaethau a restrir gan Ysgolion ar gyfer Taliadau Rhiant; unrhyw gynnwys a roddir ar School Gateway gan Ysgolion; unrhyw gynnwys a ddarperir drwy School Gateway gan systemau tiliau neu systemau trydydd parti eraill a ddefnyddir gan Ysgolion; cynnwys negeseuon neu gyfathrebiadau a anfonir drwy gynnyrch Schoolcomms gan Ysgolion.


4. Porth Ysgol

4.1.Cewch wneud cais am Gyfrif School Gateway dim ond os ydych yn breswylydd yn y DU a’ch bod eich plentyn wedi cofrestru fel Disgybl mewn Ysgol gofrestredig yn y DU. Mae’n rhaid i chi fod yn rhiant neu warcheidwad cyfreithiol gyda’r prif gyfrifoldeb dros eich plentyn, neu gael caniatâd gan y prif riant neu warcheidwad cyfreithiol i gael Cyfrif School Gateway ar gyfer y plentyn hwnnw. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn am dystiolaeth o’r hawl gyfreithiol hon a chawn derfynu’r mynediad at School Gateway os na cheir y dystiolaeth hon.

4.2.Wrth ysgogi eich Cyfrif School Gateway bydd angen i chi ddarparu cyfeiriad e-bost dilys sydd dan eich rheolaeth yn gyfreithiol ac yn ddiogel, i’w ddefnyddio fel enw defnyddiwr ar gyfer cael mynediad at School Gateway a chael gwybodaeth gennym, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: cyfathrebiadau gan yr Ysgol; ailosod pin neu gyfrinair; hysbysiadau balans; derbynebau taliadau; gwybodaeth am School Gateway ac am gynnyrch arall sy’n cael ei ddarparu neu ei gynnig gennym.

4.3. During the activation of your School Gateway Account you will need to provide a secure PIN which would not be easily guessed by others. We may require you to change your PIN from time to time. Your PIN should not be revealed to anybody else and it is your responsibility to keep your login details safe. You should change your PIN immediately if you believe it has been compromised. You must notify us immediately if you believe another person may have attempted to access your School Gateway Account, or intends to attempt to do so.

4.4.Byddwn yn darparu School Gateway i chi ar sail y Wybodaeth rydych wedi’i darparu. Rydych yn cytuno i ddarparu Gwybodaeth gywir ac i ddiweddaru eich Gwybodaeth os bydd yn newid. Drwy ddarparu Gwybodaeth wrth ysgogi eich Cyfrif School Gateway, neu drwy barhau i ddefnyddio’r Porth i Rieni, rydych yn rhoi caniatâd i ni ddefnyddio’r Wybodaeth: i ddilysu pwy ydych chi; i atal a chanfod troseddau, twyll ac i atal gwyngalchu arian; i’ch cyflenwi â’r gwasanaeth sydd wedi’i ysgogi ac rydych wedi cofrestru ar ei gyfer; i weinyddu’r gwasanaeth yn barhaus; i ganiatáu i ni wella’r cynnyrch a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i’n cwsmeriaid; i gynnig cynnyrch a gwasanaethau newydd i chi; i gynnal dadansoddiadau ymchwil ac ystadegol, gan gynnwys patrymau talu a defnyddio; i’n galluogi i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol; ac at unrhyw ddiben arall y gallwn ei ddiffinio yn y Cytundeb hwn neu yn ein Polisi Preifatrwydd o bryd i’w gilydd.

4.5.Ni fyddwn yn gwerthu nac yn darparu eich Gwybodaeth i unrhyw drydydd parti, a byddwn yn rhannu eich Gwybodaeth â’n partneriaid dim ond at ddibenion darparu’r gwasanaethau, fel y diffinnir yn ein Polisi Preifatrwydd.

4.6.Os nad ydym yn gallu dilysu’n foddhaol pwy ydych chi a beth yw eich cyfeiriad o’r wybodaeth a ddarperir gennych chi neu eich Ysgol, efallai y byddwn yn terfynu eich mynediad at School Gateway.

4.7. You are responsible for: the safekeeping of your School Gateway Account including PIN security; all use of your School Gateway; all Information provided from your School Gateway Account; any Parent Payments and Transactions against your School Gateway Account; and fees or charges that the School Gateway Account may incur.


5. Taliadau Rhiant

5.1.Mae’n rhaid i Ddulliau Talu a ddefnyddir i wneud Taliadau Rhiant fod yn gysylltiedig â chyfrifon banc neu gerdyn credyd dilys y mae gennych hawl gyfreithiol i’w defnyddio, ac sydd wedi’u cofrestru yn eich enw a’r cyfeiriad sydd gennym ar eich cyfer.

5.2.Mae taliadau cerdyn debyd neu gredyd fel arfer yn cael eu cymhwyso’n syth ar ôl awdurdodi Trafodiad o’ch cerdyn yn llwyddiannus. Fel rheol, bydd taliadau Debyd Uniongyrchol yn cael eu cymhwyso yn syth ar ôl eich cyfarwyddyd neu, yn achos taliad awtomataidd, ar ôl pasio trothwy balans wedi’i ddiffinio gennych chi, neu pan fydd rhandaliad wedi’i awdurdodi gennych o’r blaen yn ddyledus. Fel rheol, bydd taliadau PayPoint yn cael eu cymhwyso ar y bore ar ôl awdurdodi eich trafodiad drwy PayPoint. Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosib y bydd oedi cyn cymhwyso taliad i Daliad Rhiant.

5.3.Os bydd unrhyw fethiant i gasglu arian sy’n ymwneud â Thaliad Rhiant o’ch cyfrif banc neu gerdyn, gan gynnwys Debyd Uniongyrchol sy’n methu, cawn wrthdroi unrhyw Daliadau Rhiant y defnyddir yr arian hwnnw ar eu cyfer, a rhoi gwybod i’ch Ysgol am hyn. Yn achos Debyd Uniongyrchol, cawn hefyd atal eich gallu i Lwytho drwy’r Dull Talu hwnnw yn barhaol.

5.4.Gall Taliadau Rhiant fod yn destun cyfyngiadau o ran symiau isaf neu uchaf fel y diffinnir yn y Polisi Defnydd Teg o bryd i’w gilydd. Rydym yn cadw’r hawl i wrthod Taliadau Rhiant y tu allan i’r amrediad hwn, neu i gymhwyso ffi fel y gellir ei diffinio yn y Polisi Defnydd Teg.

5.5.Cawn derfynu eich mynediad at School Gateway ar unrhyw adeg am reswm dilys yn unol â darpariaethau’r Cytundeb hwn.


6. Taliadau Rhiant

6.1.Bydd Cyfanswm (Swm y Trafodiad) pob Taliad Rhiant yn cael ei godi ar y cyfrif sy’n gysylltiedig â’ch Dull Talu ar yr adeg y cyflwynir y cais am Daliad Rhiant.

6.2.Os byddwn yn methu didynnu neu godi Swm y Trafodiad yn llwyddiannus ar adeg y cais am Daliad Rhiant, nid yw hynny’n lleihau ein hawl i godi Swm y Trafodiad yn nes ymlaen, nac eich cyfrifoldeb i dalu’r swm hwnnw i ni.

6.3. We will treat Parent Payments as genuine if initiated from your School Gateway Account, defined by the use of your unique login credentials, or the transaction was initiated from the App registered to you. Parent Payments completed by anyone with access to your School Gateway Account will be treated as if authorised by you.

6.4.Pan fydd Taliad Rhiant wedi’i awdurdodi, bydd arian yn cael ei drosglwyddo yn ôl ein cyfarwyddyd ac ni allwn ei newid neu ei ganslo. Nid ydym yn gallu prosesu unrhyw ad-daliadau. Gallwch wneud cais am ad-daliad ar gyfer Taliadau Rhiant drwy gysylltu â’r Ysgol. Os bydd Ysgol yn cytuno rhoi ad-daliad llawn neu rannol ar gyfer Taliad Rhiant, bydd unrhyw swm sy’n ddyledus i chi yn cael ei gredydu’n uniongyrchol i’r cyfrif sy’n gysylltiedig â’r Dull Talu. Ar ôl i’r Ysgol brosesu’r ad-daliad, bydd oedi o un i bum diwrnod cyn i’r arian gael ei gredydu i’ch cyfrif, yn dibynnu ar y Dull Talu a ddefnyddiwyd.

6.5.Os bydd unrhyw Daliadau Rhiant yn cael eu herio, cawn atal eich mynediad at School Gateway dros dro tra cynhelir ymchwiliad. Rydych yn cydnabod ac yn derbyn bod ein cyfrifoldeb ni mewn cysylltiad â’r Trafodiad Taliad Rhiant, ac unrhyw hawl ddigolledu neu hawl i wrthdroi’r Taliad Rhiant hwnnw, wedi’i gyfyngu’n gyfan gwbl i ni’n credydu eitem dalu berthnasol yr Ysgol yn gywir gydag unrhyw swm yr ydym yn ei brosesu yn erbyn eich cyfrif banc neu gerdyn, yn seiliedig ar y cyfarwyddyd a geir gennych chi.

6.6.Os bydd trafodion sy’n cael eu herio wedyn yn cael eu derbyn gennych, rydym yn cadw’r hawl i godi ffi weinyddu arnoch chi i dalu am gostau’r ymchwiliad i ni. Bydd y ffi hon yn unol â’r un a ddiffinnir yn y Polisi Defnydd Teg o bryd i’w gilydd.

6.7.Os caiff trafodion sy’n cael eu herio eu cadarnhau gan y Cynlluniau a’u talu’n ôl, rydym yn cadw’r hawl i godi ffi weinyddu arnoch chi i dalu am gostau’r tâl yn ôl i ni, a byddwn yn gwrthdroi neu’n canslo’r Taliad Rhiant ac yn rhoi gwybod i’r Ysgol am eich tâl yn ôl.

6.8.Byddwn yn adrodd unrhyw dwyll a amheuir i’r awdurdodau priodol, gan gynnwys rhannu data trafodion a Gwybodaeth ag unrhyw bartïon perthnasol, a hynny i’r graddau mwyaf sydd eu hangen i helpu i atal a chanfod troseddau.


7. Prydau ysgol

7.1.Mae cynnyrch Schoolcomms yn darparu amrywiaeth o ddewisiadau i Ysgolion ac arlwywyr ysgol ar gyfer rheoli prydau ysgol a chodi amdanynt, a rheoli balansau prydau ysgol. Nid yw pob nodwedd ar gael ym mhob Ysgol ac mewn rhai achosion, efallai na fyddwn yn gallu darparu balans cyfrif prydau ysgol i Rieni os nad yw’r Ysgol yn defnyddio system tiliau sy’n cael ei chefnogi, neu nad yw’r wybodaeth hon ar gael i’n llwyfan mewn fformat sy’n cael ei gefnogi.

7.2.Drwy ddefnyddio School Gateway, rydych yn cydsynio bod y didyniadau perthnasol yn cael eu gwneud o falans eich cyfrif prydau ysgol fel y bo’n briodol, ar gyfer prydau a gymerir lle bydd y symiau sy’n ddyledus ar gyfer prydau ysgol yn unol â’r hyn a nodir i ni gan yr Ysgol drwy ei defnydd o gynnyrch Schoolcomms, neu’r data a geir gennym o system tiliau Ysgol neu system trydydd parti arall a ddefnyddir gan yr Ysgol i reoli prydau.

7.3.Nid ydym yn gyfrifol am godi am brydau ysgol ac nid ydym yn rheoli unrhyw brisiau, polisïau na phenderfyniadau ynghylch codi am brydau. Mae’r rhain yn ôl disgresiwn yr Ysgol neu arlwywr yr Ysgol yn gyfan gwbl. Dylid codi unrhyw ymholiadau ynghylch codi am brydau gyda’r Ysgol.

7.4.Os ydym yn dangos balans cyfrif prydau ysgol neu wybodaeth am brydau ar sail data system tiliau Ysgol neu system trydydd parti arall, ni allwn warantu bod y data a ddangosir yn gywir nac yn gyfredol. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw gynnwys a anfonir o systemau tiliau ysgol neu systemau rheoli prydau trydydd parti eraill, a byddwn dim ond yn dangos data a ddarperir i ni yn y fformat perthnasol a gefnogir.

7.5.Os bydd oedi cyn diweddaru balans cyfrif prydau ysgol â phrisiau prydau, nid yw hyn yn lleihau eich rhwymedigaeth i dalu am brydau a gymerir. Bydd unrhyw ffioedd, boed wedi’u hoedi ai peidio, yn cael eu didynnu o’r balans cyfrif prydau ysgol, heb atebolrwydd i broses arall, a heb rybudd ymlaen llaw, o dan y cydsyniad a roddir ym mharagraff 7.2 uchod.


8. Cau Cyfrifon

8.1.Mae gennych yr hawl i gau eich Cyfrif School Gateway ar unrhyw adeg.

8.2.Os nad yw eich plentyn yn mynychu Ysgol mwyach, nid oes rhaid i chi gau eich Cyfrif School Gateway. Bydd data eich plentyn yn cael eu harchifo a’i dileu’n ddiweddarach, yn unol â’n Polisi Diogelu Data. Os oes gennych blant eraill a fydd yn mynychu’r un Ysgol neu Ysgol wahanol, cewch gadw eich Cyfrif School Gateway a bydd eich manylion mewngofnodi yn dal yn weithredol.

8.3.Os byddwch yn terfynu eich Cyfrif School Gateway, bydd eich Cytundeb yn dod i ben, fodd bynnag mae ein hawl i gasglu symiau sy’n weddill neu sy’n dod yn ddyledus yn goroesi’r terfyniad hwn.


9. Eich atebolrwydd a’ch cyfrifoldebau

9.1.Rydych drwy hyn yn cytuno y byddwch dim ond yn defnyddio School Gateway, ac unrhyw gynnyrch neu wasanaethau eraill yr ydym yn eu darparu i chi, yn unol â’r Cytundeb hwn.

9.2.Rydych yn gyfrifol am: ddiogelu eich Cyfrif School Gateway; a’r holl Wybodaeth a ddarperir drwy eich Cyfrif School Gateway, ac am ddiweddaru eich Gwybodaeth os bydd yn newid.

9.3.Byddwch yn parhau i fod yn gyfan gwbl atebol am: yr holl ddefnydd o’ch Cyfrif School Gateway; yr holl Daliadau Rhiant sy’n cael eu hawdurdodi o’ch Cyfrif School Gateway; a setlo unrhyw symiau sy’n ddyledus o ganlyniad i ddefnyddio School Gateway.

9.4.Rydych yn cytuno i beidio â chopïo School Gateway na Gwefan School Gateway heb ein caniatâd ysgrifenedig, na thresmasu ar ein heiddo deallusol neu ein hawlfreintiau cynnwys ni neu unrhyw drydydd parti sy’n gysylltiedig â ni, na defnyddio eich mynediad at School Gateway i helpu i ddatblygu cynnyrch neu wasanaeth sy’n cystadlu, nac yn caniatáu i unrhyw drydydd parti gael mynediad at School Gateway at y dibenion hyn, ac na fyddwch yn defnyddio’r gwasanaethau mewn cysylltiad ag unrhyw ddiben busnes neu fasnachol.

9.5.Rydych yn cytuno i gymryd pob cam rhesymol i’n hatal rhag bod yn barti i unrhyw achos llys neu hawliad mewn perthynas â chynnyrch Schoolcomms neu eich defnydd ohonynt, a’n hindemnio a’n digolledu rhag ac yn erbyn costau unrhyw gamau cyfreithiol a gymerir i orfodi’r Cytundeb hwn a/neu unrhyw achos o dorri’r Cytundeb hwn neu ddefnydd twyllodrus o’ch Cyfrif School Gateway.


10. Ein hatebolrwydd a’n cyfrifoldebau

10.1.Rydym yn darparu’r gwasanaethau i chi yn ddarostyngedig i’ch hawliau statudol ond fel arall maent yn cael eu darparu heb unrhyw warant neu amod, penodol neu ymhlyg, oni nodir yn benodol yn y Cytundeb hwn.

10.2.Byddwn yn gwneud ymdrech resymol i ddarparu’r gwasanaeth mewn modd cywir a phrydlon, i gynnal argaeledd y gwasanaeth i chi, i gynnal ardystiad dilys o dan Safon Diogelu Data’r Diwydiant Cardiau Talu (PCI DSS), i gynnal diogelwch y systemau a’r data yn unol â safonau priodol y diwydiant, ac i gynnal cydymffurfedd â’r Ddeddf Diogelu Data ac i ddiogelu’r Wybodaeth a’r Wybodaeth Bersonol a brosesir neu a reolir gennym, yn unol â pharagraff 13.

10.3.Nid ydym yn gwarantu y bydd y gwasanaeth ar gael ac ni ellir ein dal yn gyfrifol am unrhyw amser segur neu anawsterau wrth geisio cael gafael ar y gwasanaeth.

10.4.Ni fydd unrhyw beth yn y Cytundeb hwn yn eithrio nac yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o’n hesgeulustod neu ein twyll.

10.5.Bydd ein hatebolrwydd mewn cysylltiad â’r Cytundeb hwn (boed yn codi mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol neu fel arall) yn amodol ar y cyfyngiadau a’r eithriadau canlynol:

  • 10.5.1.ni fyddwn yn atebol am unrhyw ddiffyg sy’n deillio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o unrhyw achos sydd y tu hwnt i’n rheolaeth, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: anallu i brosesu Taliadau Rhiant; anallu i brosesu taliadau prydau ysgol; anallu i gysylltu’n llwyddiannus â systemau’r Ysgol neu i gyfnewid data â hwy; a methiant unrhyw systemau prosesu data gan gynnwys rhai trydydd partïon;

  • 10.5.2.ni fyddwn yn atebol am unrhyw golledion o ran elw, ewyllys da, busnes, refeniw contractau neu arbedion a ragwelir, nac unrhyw golledion anuniongyrchol, canlyniadol, arbennig neu gosbol, hyd yn oed os cawn wybod am y posibilrwydd o golled neu iawndal o’r fath;

  • 10.5.3.os yw School Gateway yn ddiffygiol oherwydd ein diffyg ni, bydd ein hatebolrwydd wedi’i gyfyngu i ddarparu Cyfrif School Gateway newydd neu, yn ôl ein dewis ni, cau eich Cyfrif School Gateway;

  • 10.5.4.pan fydd symiau’n cael eu didynnu’n anghywir o’ch cyfrif banc neu gerdyn mewn perthynas â Thaliadau Rhiant oherwydd ein diffyg ni, bydd ein hatebolrwydd wedi’i gyfyngu i gywiro’r didyniad Taliad Rhiant gan gynnwys, lle bo’n briodol, prosesu unrhyw ad-daliad ar ein cost ni;

  • 10.5.5.ym mhob amgylchiad arall o’n diffyg ni, bydd ein hatebolrwydd wedi’i gyfyngu i ad-dalu neu gywiro unrhyw Daliadau Rhiant sydd wedi’u prosesu’n anghywir a chau eich Cyfrif School Gateway.

10.6.I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, mae pob amod neu warant a awgrymir gan y gyfraith, statud neu fel arall wedi’u heithrio’n benodol.

10.7. The above exclusions and limitations set out in this paragraph shall apply to any liability of our affiliates or other suppliers, contractors, agents or distributors and any of their respective affiliates (if any), to you, which may arise in connection with this Agreement.


11. Amrywio

11.1.Cawn newid y Cytundeb hwn drwy roi gwybod i chi dros e-bost (cyhyd â’ch bod wedi rhoi cyfeiriad e-bost cyfredol i ni), neu drwy hysbysiad School Gateway, neu drwy’r Ap.

11.2.Bydd unrhyw newidiadau’n dod i rym yn gynharach na 30 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi’r Cytundeb wedi’i ddiweddaru ar Wefan School Gateway neu eich defnydd cyntaf o School Gateway ar ôl i’r Cytundeb wedi’i ddiweddaru gael ei gyhoeddi ar School Gateway neu Wefan School Gateway.

11.3.Os nad ydych yn cytuno â’r newidiadau i’r Cytundeb, cewch derfynu eich Cytundeb ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwn a chau eich Cyfrif School Gateway. Fodd bynnag, os na fyddwch yn canslo yn ystod y cyfnod hwn, ystyrir eich bod wedi derbyn y newidiadau a byddant yn berthnasol i chi.


12. Terfynu neu atal

12.1.Cawn derfynu’r Cytundeb hwn ar unrhyw adeg os byddwn yn rhoi dau fis o rybudd i chi.

12.2.Cawn derfynu’r Cytundeb hwn ar unrhyw adeg ar unwaith os ydych wedi torri’r Cytundeb hwn neu os oes gennym reswm i gredu eich bod wedi, neu eich bod yn bwriadu defnyddio School Gateway mewn modd esgeulus dybryd neu at ddibenion twyllodrus neu anghyfreithlon eraill, neu os na allwn brosesu Trafodion mwyach o ganlyniad i weithredoedd trydydd partïon.

12.3.Cawn atal mynediad i School Gateway ar unrhyw adeg ar unwaith (a nes bydd eich diffyg wedi cael ei gywiro neu nes bydd y Cytundeb wedi cael ei derfynu) os byddwn yn canfod bod unrhyw wybodaeth a roesoch i ni pan wnaethoch gais am Gyfrif School Gateway, neu ddiweddaru Cyfrif School Gateway, yn anghywir neu os yw Trafodiad wedi cael ei herio neu ei wrthdroi heb ein caniatâd ni, neu os ydych wedi torri’r Cytundeb hwn neu os oes gennym reswm i gredu eich bod wedi, neu’n bwriadu defnyddio School Gateway mewn modd esgeulus dybryd neu at ddibenion twyllodrus neu anghyfreithlon eraill; os na allwn brosesu eich trafodion o ganlyniad i weithredoedd trydydd partïon.

12.4.Os byddwn yn atal neu’n terfynu mynediad at School Gateway, yna os gallwn wneud hynny, byddwn yn dweud wrthych ymlaen llaw neu’n rhoi gwybod i chi yn syth wedyn, oni bai y gallai gwneud hynny beryglu unrhyw ymchwiliad cyfredol neu wrthdaro ag arferion gorau’r diwydiant. Cawn roi gwybod i unrhyw un sy’n ymwneud â’r Trafodiad os ydym wedi atal, gan gynnwys eich Ysgolion.

12.5.Yn amodol ar baragraff 8, gallwch derfynu’r Cytundeb hwn ar unrhyw adeg drwy gysylltu â Gwasanaethau i Gwsmeriaid.

12.6.Os canfyddir bod unrhyw ffioedd ychwanegol wedi’u codi ar ôl terfynu’r contract, yn amodol ar y Cytundeb hwn, byddwch yn ad-dalu i ni unrhyw swm sy’n ymwneud â School Gateway gan gynnwys unrhyw ffioedd a/neu daliadau a gymhwysir yn ddilys, p’un ai cyn neu ar ôl terfynu. Byddwn yn anfon anfoneb atoch ac yn gofyn i chi ein had-dalu ar unwaith. Os na fyddwch yn ad-dalu’r swm hwn yn syth ar ôl cael anfoneb gennym, rydym yn cadw’r hawl i gymryd pob cam angenrheidiol, gan gynnwys camau cyfreithiol, i adennill unrhyw arian sy’n ddyledus.


13. Eich gwybodaeth

13.1.Efallai y byddwch yn rhoi Gwybodaeth, gan gynnwys Gwybodaeth Bersonol, i ni o bryd i’w gilydd mewn cysylltiad â School Gateway neu gynnyrch neu wasanaethau eraill Schoolcomms yr ydym yn eu darparu i chi. Bydd rhywfaint o Wybodaeth yn angenrheidiol er mwyn i ni ddarparu gwasanaethau i chi o dan y Cytundeb hwn.

13.2.Rydym ni a’n cwmnïau cysylltiedig wedi ymrwymo i gadw eich Gwybodaeth yn unol â gofynion pob cyfraith diogelu data berthnasol a byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr holl ddata personol yn cael eu cadw’n ddiogel rhag mynediad heb awdurdod, colled, datgelu neu ddinistrio, ac yn unol â’n Polisi Preifatrwydd. Ac eithrio fel sy’n ofynnol dan y gyfraith, neu’n unol â’r Cytundeb hwn, ni fydd eich Gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i unrhyw un heb eich caniatâd. Cawn ofyn, ar unrhyw adeg, am dystiolaeth o bwy ydych chi a chawn ddefnyddio asiantaeth dilysu ID cyn ac ar ôl ysgogi’r Cyfrif School Gateway at y diben hwn.

13.3.Rydych yn cytuno y cawn ddefnyddio eich Gwybodaeth mewn cysylltiad â’r gwasanaethau yn unol â’r Cytundeb hwn. Gall hyn gynnwys darparu eich Gwybodaeth i’n partneriaid, ein cwmnïau cysylltiedig, ein hasiantiaid, ein dosbarthwyr a’n cyflenwyr i brosesu trafodion ac at eu dibenion dadansoddi ac ymchwil ystadegol. Cawn hefyd ddatgelu eich Gwybodaeth fel sy’n ofynnol dan y gyfraith, rheoliadau neu gan unrhyw awdurdod neu asiantaeth gymwys i ymchwilio i weithgarwch twyllodrus, anghyfreithlon neu ddiawdurdod posibl.

13.4.Mae gennych hawl i archwilio’r Wybodaeth sydd gennym amdanoch, ond byddwn yn gofyn i chi dalu ffi archwilio i dalu ein costau. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y Polisi Preifatrwydd.


14. Cyffredinol

14.1.Ni fydd unrhyw oedi neu fethiant i arfer unrhyw hawl neu rwymedi o dan y Cytundeb hwn gennym yn cael ei ddehongli fel hepgoriad o’r hawl neu’r rhwymedi hwnnw, nac yn ein hatal rhag ei arfer ar unrhyw adeg yn ddiweddarach.

14.2.Os pennir bod unrhyw ddarpariaeth yn y Cytundeb hwn yn anorfodadwy neu’n anghyfreithlon, bydd y darpariaethau sy’n weddill yn parhau mewn grym ac effaith lawn.

14.3.Ni chewch aseinio na throsglwyddo unrhyw rai o’ch hawliau a/neu eich buddion o dan y Cytundeb hwn a chi fydd yr unig barti i’r contract rhyngom. Byddwch yn parhau i fod yn atebol hyd nes y byddwch wedi talu’r holl symiau sy’n ddyledus o dan y Cytundeb hwn yn llawn. Cawn aseinio ein hawliau a’n buddiannau ar unrhyw adeg heb roi rhybudd ysgrifenedig ymlaen llaw i chi. Cawn is-gontractio unrhyw rai o’n rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn.

14.4.Nid oes gan unrhyw drydydd parti nad yw’n barti yn y Cytundeb hwn hawl i orfodi unrhyw un o ddarpariaethau’r Cytundeb hwn.

14.5.Caiff y Cytundeb hwn ei lywodraethu yn unol â chyfraith Lloegr ac rydych yn cytuno ag awdurdodaeth lwyr Llysoedd Cymru a Lloegr.


15. Gofyn am Gymorth

15.1. In the first instance you should follow the guidance available on the School Gateway Website. If unable to resolve an issue, you should contact your child’s School. You can contact us by writing to Customer Services at Schoolcomms, Continental House, Kings Hill, Bude, Cornwall EX23 0LU.

15.2.Ein nod yw ymateb i bob cais o fewn amserlen resymol, ond ar adegau prysur gall hyn gymryd mwy o amser. Mae rhagor o fanylion ar gael ar School Gateway a Gwefan School Gateway.